Adref

gwylfawr

Sefydlwyd Gŵyl Fawr Aberteifi yn 1952 yn dilyn cyfarfod rhwng Pwyllgor y Neuadd Goffa a Chymdeithas Gorawl Aberteifi. Y pwrpas yr adeg hynny oedd cynnal Eisteddfod i chwyddo coffrau pwyllgor y Neuadd Goffa. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf mewn pabell ar gae chwarae’r Ysgol Ramadeg a hynny gyda amodau digon llym.

Ni ellid defnyddio adeiladau’r ysgol ac yr oedd y babell i’w chodi cyn belled a phosibl o’r ysgol. Erbyn heddiw mae yna fwy o gydweithio  rhwng yr Eisteddfod a Phennaeth yr Ysgol Uwchradd, Nicola James. Mae’r cyfan, y cystadlu a’r rhagbrofion yn digwydd ar un safle ac nid fel yn y gorffennol mewn gwahanol leoliadau yn y dref. Fe gafodd yr Eisteddfod  gynta gyhoeddusrwydd arbennig gan y papur lleol y Tivy Side, fel sydd yn digwydd heddiwgyda manylion a lluniau enillwyr y gwahanol gystadlaethau a chrynodeb o areithiau’r Cadeiryddion a’r Llywyddion. Yn ôl y papur, rhwng deuddydd yr Eisteddfod a’r gyngerdd nos Sul, mynychwyd yr Eisteddfod gan dros 8000 o fobl. Wedi treulio nifer o flynyddoedd ar dir yr ysgol bu rhaid cael pabell yn fwy. O ganlyniad codwyd pabell newydd, oedd yn dal rhai miloedd o fobl, ar dir Dolwerdd.  Yno bu’r Eisteddfod am gyfnod hir a llewyrchus ond yn 1991 penderfynwyd gwneud defnydd o’r Ganolfan Hamdden newydd yn y dre. Braf oedd cael symud o babell oer a llaith i foethusrwydd y Ganolfan. Mae’r Eisteddfod yn dal  ei thir ac yn un o Eisteddfodau mwyaf llwyddianus Cymru.

 

Leave a Reply